Croeso i wefan Gwesty TÅ· Newydd
Mae Iain a Wilma’n cynnig croeso cynnes i chi i Westy Tŷ Newydd. Mae’r gwesty wedi’i leoli ym mhentref prydferth a hanesyddol Aberdaron ar Ben Llŷn, Gogledd Orllewin Cymru. Mae Gwesty Tŷ Newydd yn edrych dros fae a thraeth tywodlyd Aberdaron, sef un o draethau gorau a mwyaf diogel Pen Llŷn.
- Dewch i fwynhau awyrgylch gysurus y Dafarn “Pedair Seren” hon, gyda’i golygfeydd godidog.
- Dewch i flasu cimychiaid a chrancod ffres, newydd eu dal oddi ar Aberdaron, neu de prynhawn gyda chacennau cartref.
- Dewch i wylio’r haul yn machlud oddi ar y teras wrth fwynhau unrhyw ddiod o’ch dewis o’r bar sydd â thrwydded lawn.
- Dewch i gael swper yn y bwyty, gan fwynhau prydau wedi’u gwneud â’r cynhwysion ffres gorau sydd wedi’u cynhyrchu’n lleol, wrth ymgolli yn y golygfeydd dros y môr tua’r ynysoedd.
I weld Gwesty Ty Newydd mewn map mwy.